hafan beibl cymraeg y llais adnoddau newyddion amdanom ni  

Creu man cyfarfod rhyngom â’r beibl
 
 


   

CYFIEITHU
Mae Beibl wedi’i gyfieithu’n rhannol i dros ddwy fil o ieithoedd, dim ond 400 o ieithoedd sydd â’r Beibl cyfan yn yr iaith honno. Bydd Cymdeithas y Beibl yn gweithio ar tua 600 o brosiectau cyfieithu ar yr un pryd.

DOSBARTHU
Mae Cymdeithas y Beibl yn ariannu dosbarthu Beiblau a rhannau o’r Beibl led led y byd. Mae’n darparu’r Ysgrythurau mewn sawl fformad gwahanol, er enghraifft, fideos, tapiau llafar a Braille.

CODI PONTYDD
Mae Cymdeithas y Beibl led led y byd yn chwilio am ffyrdd newydd a chreadigol o godi pontydd rhwng pobl a neges y Beibl. Er mwyn gwneud hynny maent yn cynhyrchu tapiau llafar, C.D, stribedi comig o’r Beibl a gemau cyfrifiadur, Ceisia Cymdeithas y Beibl sicrhau fod neges y Beibl o fewn cyrraedd pawb.

YMGYRCHOEDD
Mewn ambell ddiwylliant, fel ein diwylliant ni, lle dywedir yn aml fod y Beibl yn amherthnasol ac yn hen ffasiwn, mae Cymdeithas y Beibl yn ymgyrchu i roi llais i neges y Beibl. Mae cyfres o ymgyrchoedd lleol ar droed yn defnyddio’r cyfryngau, addysg leol a sefydliadau gwleidyddol er mwyn codi ymwybyddiaeth a sialensio pobl i feddwl am y Beibl mewn ffordd newydd.

Trwy Gymdeithas y Beibl medrwch gynorthwyo i newid bywydau yn fyd eang.

Mae pobl trwy’r byd i gyd yn darganfod gobaith yn feunyddiol yn y Beibl. Rhai ohonynt yn byw ar gyrion cymdeithas ac yn blant amddifad, rhai yn byw mewn sefyllfaoedd diwylliannol a gwleidyddol dyrys, ynghyd â rhai pobl ffydd a rhai yn chwilio ystyr Cristnogaeth am y tro cyntaf.

CYMRU

Roedd Meryl Walters yn gofidiol am bethau o’i gorffennol …

"R’on i’n gwybod ei bod hi’n amser i mi symud ymlaen. Darllenais eiriau o’r Alarnad … ’Ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore’, Gweddïais ’O’r gore Arglwydd, dyna beth mae dy Air di’n dweud … Gad i fi weld dy dosturiaethau di nawr.’ Oddi mewn daeth nerth i mi fynd ymlaen. Seriwyd y geiriau hyn yn ddwfn ar fy enaid. ’Gadawa i ni gau’r bennod hon,’ a gyda’n gilydd felly y gwnaethon ni. Gyda ’nghalon yn llawn gobaith a thangnefedd gwyddwn fy mod newydd brofi Duw yn torri mewn i ’m mywyd. Roedd ei Air yn wir! Doedd ei dosturiaethau ddim wedi darfod amdanaf."

PERIW

Mae Eugenia Santiago yn gweithio ym mhrosiect Pan de Vida (Bara’r Bywyd). Mae’n rhoi brecwast i 1,000 o blant tlawd yn ardaloedd gor boblog Periw ynghyd â deunyddiau Beiblaidd iddynt.

"Symudodd fy nheulu i Periw pan o’n i’n 8 … oherwydd y terfysgoedd. Dioddefais yn enbyd … d’on i ddim eisiau gweld y plant yma’n dioddef fel gwnes i. Dim ond trwy nerth Duw y medraf helpu eraill mewn modd ymarferol. Dyma fy ffordd i o ddangos cariad Duw tuag at y plant. Gall fod yn weithred mor syml â chusanu plentyn."

TSEINA

Daeth Ma Wei i gredu pan ddechreuodd weithio i Gwmni Argraffu Amity yn Tseina. Roedd yn ddall o’i blentyndod.

"Arweiniodd Duw fi yma i’r man yr argreffir yr Ysgrythurau ar gyfer y deillion fel y gallwn ddod o dan ddylanwad ei Air." Pan glywodd Ma eiriau Efengyl Ioan, pennod 9, lle dywed Iesu fod dallineb dyn yn rhoi cyfle i waith Duw gael ei arddangos, gwelodd werth o’r newydd yn ei anabledd. "Er nad yw fy llygaid yn medru gweld,mae’n bosib gweld a chredu trwy’r galon."

 
     
   
  Bible Society, PO Box 205, Bala LL23 9AB
T: 01793 418100 F: 01793 418118
www.biblesociety.org.uk Charity Registration No. 232759